Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 20 Mai 2024

Amser: 14.00 - 16.11
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13905


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Jack Sargeant AS (Cadeirydd)

Peter Fox AS

Peredur Owen Griffiths AS

Tystion:

Caroline Allen, RSPCA Cymru

Dr Julia Mewes, The Mewes Vets

Dr Sue Paterson, Llywydd Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS)

Carlie Power, Cats Matter

Staff y Pwyllgor:

Gareth Price (Clerc)

Mared Llwyd (Ail Glerc)

Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS

 

Roedd Rhys ab Owen AS yn absennol.

</AI1>

<AI2>

2       Sesiwn dystiolaeth Panel 1 -  P-06-1291 Cynnal ymchwiliad i’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Sue Paterson, Llywydd Coleg Brenhinol y Milfeddygon a Dr Julia Mewes, o Filfeddygon Mewes.

 

</AI2>

<AI3>

3       Deisebau newydd

</AI3>

<AI4>

3.1   P-06-1411 Rwy'n gwrthwynebu 'Bil Diwygio'r Senedd' Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 18 Medi 2023, yn dod yn gyfraith.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y Bil wedi bod yn destun craffu helaeth wrth iddo fynd drwy’r Senedd. Fodd bynnag, mae’r Senedd bellach wedi’i basio ac mae’n aros am Gydsyniad Brenhinol i ddod yn Ddeddf. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau nad oes unrhyw beth arall y gall y Pwyllgor ei wneud a chaeodd y ddeiseb a diolchodd i'r deisebydd.

 

</AI4>

<AI5>

3.2   P-06-1426 Dylid gosod goleuadau traffig wrth gylchfan McDonald's ym Mhont-y-pwl

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Heddlu Gwent yn gofyn am y data blynyddol diweddaraf ynghylch digwyddiadau ar y gylchfan dan sylw i ystyried a yw'r mesur diogelwch a roddwyd ar waith wedi bod yn effeithiol.

 

</AI5>

<AI6>

3.3   P-06-1437 Tyfu, nid torri, cyllid y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru a'r Comisiwn Brenhinol

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid i dynnu sylw at y ddeiseb ac i ofyn iddynt ei hystyried wrth graffu ar y gyllideb atodol yn ddiweddarach y mis hwn, a chyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ddechrau mis Gorffennaf.

</AI6>

<AI7>

4       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI7>

<AI8>

4.1   P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Nododd yr Aelodau hanes y ddeiseb a’r ddadl ddiweddar yn y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ar 1 Mai 2024. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb ond parhau i gefnogi'r ymgyrchwyr yn eu rôl fel Aelodau unigol o'r Senedd.

 

</AI8>

<AI9>

4.2   P-06-1392 Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y ddadl ddiweddar yn y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ar 8 Mai 2024.

 

Yng ngoleuni’r ymateb manwl helaeth a gafwyd gan Diwygio ADY yng Nghymru, cytunodd yr Aelodau i’w anfon ymlaen at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn am atebion i’r cwestiynau penodol a godwyd, gan gynnwys sut y mae’r Gweinidog yn bwriadu gweithio gydag ymgyrchwyr fel Diwygio ADY yng Nghymru.

 

</AI9>

<AI10>

4.3   P-06-1395 Atal datblygiadau newydd sylweddol ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Gwastadeddau Gwent

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

·        Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yn ceisio atebion i'r cwestiynau penodol a godwyd yng ngohebiaeth y deisebwyr; 

·       Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i ofyn a oes ganddynt unrhyw gynlluniau i wneud gwaith ar y mater.

</AI10>

<AI11>

5       Sesiwn dystiolaeth Panel 2 - Cynnal ymchwiliad i’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Caroline Allen, Prif Swyddog Milfeddygol RSPCA Cymru a Carlie Power o Cats Matter.

 

</AI11>

<AI12>

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Derbyniwyd y cynnig.

</AI12>

<AI13>

7       Trafod y dystiolaeth - P-06-1291 Cynnal ymchwiliad i’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru

Trafododd yr Aelodau y sesiynau tystiolaeth.

</AI13>

<AI14>

8       Trafod deiseb y flwyddyn

Trafododd yr Aelodau enwebiadau posibl ar gyfer deiseb y flwyddyn.

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>